Dim Recordio ayyb

Heb roi llawer i lawr dros y pythefnos diwethaf. Annodd cael y balans rhwng ‘chwara’ cerddoriaeth a petha fel edrach ar ol darn bach o dir.

 llysiau.JPG

Ma’r patch yma i fod yn llawn o lysiau yr adeg yma ond drwy peidio cymryd gofal a channoedd o gwningod nath bwyta popeth llynedd mae’n edrach fel hyn - yn hardd iawn beth bynnag. Ma’r tynnu rhwng creu miwsig a gardd mewn amsar sbar yn creu trafferthion, a tu fewn y miwisg ma pethan slofi achos meddwl gormod am polarities traddodiad/olfoderniaeth, acwstic/electroneg, Llanfaelog/global village, Polarities rhwng ‘gwerin’, arbrofi, byrfyfyrio ayyb … Oes na fath beth a tri ‘polarity’? Ar hyn o’r bryd dwi’n bodoli mewn amryw o diwillianau cerddorol sydd ddim yn aml yn gyfforddus efo’i gilydd ond eto dwi’n yn gyfforddus ym mhob un…gobeithio neith hyn ddim troi mewn i fath o record ffiwsion dodgy.
Mwydro.
Gorwel
ON - da ni’n chwara yng Nganolfan Ucheldre hefo Gwilym Morus a’i fand (hyfryd iawn) nos Sadwrn 15/7/06.

3 Sylw »

  1. Spoog said,

    Tachwedd 7, 2006 @ 9:51 yh

    Mae’n rhaid i chi ysgrifennu lawer.

  2. rhwng said,

    Tachwedd 8, 2006 @ 8:17 yb

    Bydd, ti’n iawn… a recordio mwy hefyd. Diolch am bostio.
    Gorwel

  3. rhwng said,

    Tachwedd 15, 2006 @ 3:22 yh

    Mae helyntion tyfu llysiau ayyb yn cael ei bigo fyny fan hyn: http://llysiau.wordpress.com/

RSS feed for comments on this post · URI Nôlnodi

Leave a Comment